Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 24 Ebrill 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 11:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies (Cadeirydd) Peter Black Christine Chapman Paul Davies Mike Hedges Julie Morgan Ieuan Wyn Jones Vaughan Gething |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
David Bentley, Head of Asset Management, CIPFA |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Gareth Price (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Eleanor Roy (Ymchwilydd) Kerry Dearden (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones, ac roedd Vaughan Gething yn dirprwyo ar ei rhan.
2. Rheoli Asedau – Tystiolaeth gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth
2.1 Croesawodd y Cadeirydd David Bentley, Pennaeth Rheoli Asedau, y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) – Eiddo.
2.2 Holodd yr Aelodau y tystion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at David Bentley gyda’r cwestiynau canlynol, sy’n canolbwyntio’n benodol ar Reoli Asedau yng Nghymru:
· Mae strategaeth gyfalaf Llywodraeth Cymru, y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru (WIIP), yn cyfeirio at reoli asedau ond dim ond o ran nodi'r angen i ddefnyddio'r sylfaen asedau yn well. Yn eich barn chi sut y dylai rheoli asedau yn y llywodraeth ganolog, ac yn y sector cyhoeddus ehangach, gael ei gysylltu â'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru yn ymarferol?
· Yn eich papur, gan gyfeirio at gynlluniau rheoli asedau llywodraeth leol Cymru, yr ydych yn nodi bod y rhan fwyaf o'r rhain yn cyfeirio i ryw raddau at amcanion strategol neu bolisi, ond rhaid bod y cyfeiriadau hyn yn rhai gwirioneddol yn ymarferol. Yn eich profiad chi, a yw’n wir nad yw cysylltiadau o'r fath yn rhai gwirioneddol yn ymarferol, ac os yw rheoli asedau'n cael ei weld fel gwasanaeth cefnogi mewn rhai meysydd, fel y mae peth o'n tystiolaeth yn ei awgrymu, sut y gellir sicrhau bod cysylltiadau strategol o'r fath yn fwy diriaethol?
· Yn eich papur mewn perthynas â gwersi a ddysgwyd o Gymru [tudalennau 13-14] yr ydych yn rhoi deg enghraifft o lle yr ydych wedi rhoi cymorth i awdurdodau lleol mewn perthynas â rheoli eiddo. A oedd y cyfan o'r rhain yn awdurdodau lleol o Gymru a sut y mae'r trefniadau hyn yn codi, er enghraifft a yw'r awdurdod yn cysylltu â chi am gymorth gyda phrosiect?
3. Papurau i'w nodi
3.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar oblygiadau ariannol y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i ymateb i’r Dirprwy Weinidog yn gofyn am eglurhad ar nifer o faterion.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol
5. Rheoli Asedau – Ystyried y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar ei ymchwiliad i Reoli Asedau.
6. Canllawiau i bwyllgorau eraill ar graffu ariannol
6.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor ganllawiau drafft i bwyllgorau eraill ar graffu ariannol.
7. Cyllido Addysg Uwch – Ystyried cylch gorchwyl drafft
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor Gylch Gorchwyl drafft ei ymchwiliad sydd ar ddod ynghylch Cyllido Addysg Uwch a thrafododd ddulliau o ymdrin â’r ymchwiliad.
8. Trafod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-2015
8.1 Trafododd y Pwyllgor gynigion ar gyfer ymdrin â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2014-2015.